Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 9 Ionawr 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:26 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Joyce Watson Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Frank Cuthbert, Head of Scrutiny, Democracy and Participation Team Louise Gibson, Lawyer, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Helen Finlayson (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas a Ken Skates.
1.2 Gan mai Peter Black oedd yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru), roedd Kirsty Williams yn dirprwyo ar ei ran yn ystod yr eitemau lle y trafodwyd y Bil hwnnw.
2. Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1 (Cyfnod 1)
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i roi gwybodaeth bellach am y Bil i’r Pwyllgor.
3. Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Black AC, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru).
3.2 Cam i’w gymryd: Cytunodd Peter Black AC i anfon safbwynt cyfreithiol pendant erbyn 16 Ionawr o ran a fydd y Bil, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn codi materion o dan Erthygl 1 Protocol Cyntaf y Confensiwn ar Hawliau Dynol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Cytunwyd ar y cynnig.
5. Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): ystyried y prif faterion
5.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion a phwysleisiodd y meysydd yr hoffai wneud argymhellion mewn perthynas â hwy.
6. Papur yn amlinellu'r dewisiadau o ran craffu ar y Papur Gwyn ar ddeddfwriaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Cymru)
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gael cyflwyniad ffeithiol am y Papur Gwyn ar 6 Chwefror.
7. Papurau i'w nodi
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.